Search
Loading…
Published

Mae'n bleser gan Artes Mundi gyhoeddi'r tri artist sydd wedi derbyn arian ar gyfer cyfle comisiwn Cymru Fenis 10 ar ôl derbyn dros 60 o geisiadau.
Cynigiwyd y comisiynau i artistiaid gweledol Cymreig a rhai sy'n byw yng Nghymru fel cefnogaeth tuag at ddatblygu a chynhyrchu prosiect neu waith celf newydd.
Dyfarnwyd y comisiynau i:
Bydd pob artist yn derbyn £14,100 ar gyfer costau deunydd a chynhyrchu, ynghyd â chostau mynediad ychwanegol, gyda chontract y comisiwn yn para tua chwe mis. Bydd cymorth stiwdio rheolaidd yn cael ei ddarparu gan dîm curadurol Artes Mundi yn unol â chais i gyfrannu at ddatblygiad y comisiynau.
Roedd y panel dethol yn cynnwys Catrin Owen, aelod o bwyllgor ymgynghorol Cymru Fenis; Yuen Fong Ling, artist, curadur, ymchwilydd a darlithydd ym Mhrifysgol Sheffield Hallam. Melissa Hinkin, Curadur yn Artes Mundi; a Liv Penrose Punnett, Curadur Cynorthwyol yn Artes Mundi. Cadeiriwyd y panel gan Nigel Prince, Cyfarwyddwr Artes Mundi.
Meddai’r detholwyr allanol: “Mae’r Comisiynau Cymru Fenis 10/Artes Mundi newydd hyn yn gwrando ar yr alwad am newid – mynediad i fod yn fwy cynhwysol, a chyfleoedd i feithrin artistiaid, ar wahanol gamau o’u datblygiad. Mae’r cyflwyniadau’n adlewyrchu diddordeb yr artist mewn mynd i’r afael yn uniongyrchol ag anghenion cymdeithasol, plethu naratifau gwleidyddol a hanesyddol, adrodd straeon newydd, a chreu hunaniaethau newydd. Mae'r artistiaid dethol yn hyrwyddo ysbryd o annibyniaeth, cyfunoliaeth, a chynwysoldeb, fel rhan annatod o ymarfer artistig. Lle mae artistiaid ar flaen y gad mewn ffyrdd newydd o fyw, gweithio a bodoli.”