Mae N. S. Harsha yn storïwr medrus sy’n cyfuno manylion bywyd pob dydd yn India â’r digwyddiadau mawr a’r delweddau rydyn ni wedi eu gweld ar y newyddion. Mae e wedi troi’r traddodiad peintio miniatur Indiaidd yn ffurf sy’n galluogi iddo gymysgu’r penodol â’r cyffredinol. Mae’n defnyddio hyn i dynnu ein sylw at bethau mympwyol ac absẃrd llawn cymaint â’r trasig a phethau o bwys rhyngwladol. Gellid ei ddisgrifio fel artist/athronydd, sy’n ein galluogi ni i fyfyrio ar y byd o’n cwmpas heb feirniadu.
Roedd y panel yn llawn edmygedd o waith yr artistiaid i gyd, ac roedd ceisio penderfynu ar enillydd yn anodd iawn iddynt. “Edrychodd y panel yn fanwl ar waith pob artist dros y 5-8 mlynedd diwethaf a phenderfynwyd cyflwyno’r Wobr i Harsha am y ffordd y mae’n ymdrin mewn ffordd ddwys â thema Artes Mundi, y cyflwr dynol” meddai Jack Persekian. Pwysleisiodd y panel gryfder yr arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gan edmygu cyflwyniadau ardderchog yr holl artistiaid sydd ar y rhestr fer.
Dychmygwch sefyll rhwng tair sgrin fideo anferth. Am un deg tri munud a hanner rydych chi yng nghanol byd sy’n rhannol debyg i’ch byd chi – yn ddigon felly i’ch twyllo i feddwl bod yr hyn a welwch yn bosibl – ac yn rhannol sylfaenol wahanol – yn ddigon felly i wneud i chi deimlo’n anesmwyth. Gwyrdd yw’r prif liw. Does dim cerddoriaeth yn gyfeiliant i’r un llais benywaidd sy’n siarad heb arlliw o emosiwn.
© Mieke Bal – yn ysgrifennu i gyhoeddiad Artes Mundi 2
Gwnaeth y gwaith, Y TÅ· gan Eija-Liisa Ahtila, (2002), argraff aruthrol yn Artes Mundi 2 yn 2006. Roedd yn un o’r prif osodweithiau yng nghyflwyniad Eija-Liisa Ahtila ar gyfer Artes Mundi ac fe’i dangoswyd ochr yn ochr â’r TÅ· Gweddi (2005).
Yn swynol o syml, roedd gosodwaith Xu Bing, Ble Mae’r Llwch yn Ymgasglu? (2004) yn Artes Mundi 1 yn gasgliad o’r syniadau ffurfiol a thematig sydd wedi bod wrth wraidd ei waith cysyniadol ers bron i ugain mlynedd. Edrycha’r gwylwyr i lawr o bompren uchel at lawr oriel sydd wedi’i daenu â llwch gwyn a’i atalnodi gan fannau moel lle mae nodau Tsieinëeg mawr wedi’u ‘hargraffu’ gan ffurfio dwy linell o bennill “Gan nad oes dim o’r dechreuad / Ble mae’r llwch yn ymgasglu?” gan sylfaenydd Bwdhaeth Zen yn Tsieina, Hiu-neng (638-713). Mae pum ffotograff yn crogi ar un wal, yn dangos mewn dilyniant y broses a ddilynwyd i gasglu’r llwch hwn o gwymp Canolfan Fasnach y Byd yn wreiddiol, ei gastio’n gerflun bach ar ffurf dol i’w gludo drwy’r tollau, ac wedyn ei dorri’n deilchion a’i falu’n bowdwr eto yng Nghaerdydd. Hanes, medrusrwydd a dyfeisgarwch technegol, hiwmor cyfrwys, torri ar draws ffiniau, chwarae â iaith, problem boddhad ysbrydol mewn amgylchiadau seciwlar cyfoes – mae’r cwbl yn elfennau o waith Xu Bing.
© Richard Vine - yn ysgrifennu i gyhoeddiad Artes Mundi 2

