Mae Pecyn Addysg Arts Mundi 3 2008 yma
12 Mawrth 2008
Mae Pecyn Addysg Artes Mundi 3 2008 ar gael nawr. Mae’r pecyn CD-ROM dwyieithog, sydd ar gael am ddim, ac wedi’i gynhyrchu gyda chefnogaeth Dewi Sant 2 a Chelfyddydau a Busnes Cymru, wedi’i gynllunio i alluogi athrawon i baratoi ar gyfer ymweliadau a defnyddio cyfrifiaduron a thaflunio i ddod ag agweddau o arddangosfa Artes Mundi ar ‘rith-ffurf’ i’r ystafell ddosbarth pan nad oes modd ymweld â’r arddangosfa ei hun.
Mae’r pecyn yn craffu ar bynciau sydd wedi’u codi gan yr artistiaid o dair arddangosfa Artes Mundi hyd yma, sef 27 artist o 23 o wledydd. Mae’r pynciau’n cynnwys dynoliaeth a’r cyflwr dynol, a materion cyfoes fel perthynas dyn â’i amgylchedd ac ôl-effeithiau rhyfel a gwrthdaro. Yn ogystal ceir adran ar gelf gyhoeddus, mewn cydweithrediad â Dewi Sant 2 a Safle.
Mae’r pecyn wedi’i fwriadu i’w ddefnyddio ochr yn ochr ag ymweliad â’r arddangosfa i helpu myfyrwyr i werthfawrogi’r gweithiau celf a welant yn yr oriel. Datblygwyd oriel ryngweithiol o 101 o ddelweddau fel y gall defnyddwyr bori’r orielau a’u gweld ar ffurf sioe sleidiau. Mae’r deunydd dysgu’n llawn dop o syniadau a gweithgareddau sy’n cysylltu â’r Cwricwlwm Cenedlaethol, yn benodol Celf a Dylunio, ond yn berthnasol hefyd i Saesneg, Dinasyddiaeth, Gwyddoniaeth a Daearyddiaeth.
Anfonwyd y pecyn i bob ysgol gynradd, uwchradd ac anghenion arbennig yng Nghymru ar 11 Mawrth 2008. Cysylltwch â ni os na chawsoch chi gopi.
Mae’r pecyn ar gael i ysgolion a theuluoedd ar draws Prydain hefyd. Gwahoddir ysgolion i e-bostio info@artesmundi.org i ofyn am becyn.
Gall teuluoedd lwytho pecyn i lawr drwy glicio botwm dde’r llygoden ar un o’r dolenni isod a dewis "save target as"
CD gyflawn yn cynnwys oriel ryngweithiol a sioe sleidiau (135 MB)
