Artes Mundi - Susan Norrie

Susan Norrie

Pentref Siring, Is-ranbarth Porong, rhaglywiaeth Sidoarjo, Dwyrain Java, Indonesia  - Susan Norrie
Marchogion Bromo, Mynydd Bromo, Dwyrain Java, Indonesia - Susan Norrie
Mynydd Bromo, Dwyrain Java, Indonesia (Bapak Mandik) - Susan Norrie

Rhestr Fer
Artes Mundi 3

Lida Abdul
Vasco Araújo
Mircea Cantor
Dalziel and Scullion
N. S. Harsha
Abdoulaye Konaté
Susan Norrie
Rosângela Rennó

<< yn ôl i'r mynegai
artistiaid

Mae’r artist Awstralaidd Susan Norrie wedi wynebu ac archwilio’i hofnau dyfnion ynghylch ein hamgylchedd am dros ddau ddegawd. Arweiniodd ei phryder at ei gweld yn creu gwaith grymus sy’n archwilio difrod diwydiannol, profion niwclear a newid yn yr hinsawdd drwy ei delweddau o ddaeargrynfeydd, llosgfynyddoedd yn ffrwydro, stormydd llwch a thanau gwenwynig. Heddiw mae’n gweithio mewn fideo yn bennaf, ond mae ei gwaith yn weledol ac yn seiliedig ar faterion y dydd.

Roedd Norrie yn un o dri artist a gynrychiolodd Awstralia yn Biennale Fenis yn 2007. Roedd ei gosodiad fideo HAVOC (2007) a wnaeth ar y cyd â David Mackenzie, yn archwilio materion geowleidyddol treiddiol planed sydd ynghanol cythrwfl. Gwaith trwy brofiad ydyw, ac mae’n trochi’r gynulleidfa’n gorfforol ac yn eu cludo i ddyfodol ansicr.

Ganwyd Susan Norrie yn Sydney, Awstralia ym 1953. Astudiodd yn y Victorian College of the Arts, Melbourne a’r Ysgol Gelf Genedlaethol, Sydney. Bu’n Artist Preswyl ym Mhrifysgol Melbourne a Phrifysgol Gorllewin Sydney, Awstralia; Cymrodoriaeth Moet & Chandon, Ffrainc; Artist Preswyl, prosiect (dad)leoli, ZKM, Karlsruhe, yr Almaen; APA, Ysgoloriaeth ar gyfer astudiaethau PhD, Prifysgol New South Wales, Sydney; Rhaglen Artistiaid Preswyl Sally a Don Lucas, Montalvo, UDA.


 


	work by Susan Norrie

Pentref Siring, Is-ranbarth Porong, rhaglywiaeth Sidoarjo, Dwyrain Java, Indonesia
Havoc - 2007 © Susan Norrie
Llun llonydd allan o gynhyrchiad - Ffotograff gan David Mackenzie