Artes Mundi - Thomas Demand

Thomas Demand

Studio - Thomas Demand
Diving Board - Thomas Demand
Attempt - Thomas Demand
Clearing - Thomas Demand

Rhestr Fer
Artes Mundi 2
Eija-Liisa Ahtila
Thomas Demand
Mauricio Dias and
Walter Riedweg

Leandro Erlich
Subodh Gupta
Sue Williams
Wu Chi-Tsung
 
<< yn ôl i'r mynegai
artistiaid
 

Mae gwaith Thomas Demand yn cyfuno syniadolaeth, ffotograffiaeth a ffilm, gan ddefnyddio proses o adeiladu, cynrychioli ac ailadrodd. Dechreua Demand y broses gyda llun sy’n bodoli eisoes o du mewn neu du allan adeilad, wedi’i gymryd yn aml o’r cyfryngau, o hanes, neu o’i gof ei hun. Wedyn bydd yn ail-greu’r ddelwedd hon yn fanwl ar fodel coeth maint llawn wedi’i adeiladu o bapur a cherdyn lliw. Yn olaf, bydd yn tynnu ffotograff o’r adeiladwaith papur hwn a grëwyd mor ofalus cyn ei ddinistrio. Y ddelwedd o’r cerflunwaith hwn ar ffurf ffotograff neu ffilm, wedi’i chwyddo i faint murlun, yw’r hyn a arddangosir. Gallai ffotograffau perffaith Demand fod yn lleoedd go iawn, yn rymus o real ac eto’n od o artiffisial; yn wag o bobl a graffeg, mae ei luniau’n rhyfedd o lân ac amwys.

Ganwyd Thomas Demand ym Munich ym 1964 a bellach mae’n byw ac yn gweithio yn Berlin, wedi cwblhau ei astudiaethau yn yr Almaen, Llundain a Paris.

visit Thomas Demand's website >>

work by Tomas Demand

Stiwdio
Thomas Demand
© Thomas Demand