Detholwyr Artes Mundi 1
Declan McGonagle
Dechreuodd Declan McGonagle ei yrfa yn Brif Drefnydd yn Oriel yr Orchard yn Derry. Aeth ymlaen i fod yn Gyfarwyddwr Arddangosfeydd yn yr ICA, Llundain ac wedyn yn Gyfarwyddwr yn yr Orchard. Ar ôl un mlynedd ar ddeg yn Gyfarwyddwr Amgueddfa Gelfyddyd Fodern Iwerddon yn Nulyn, a chyflawni rhes o swyddi allweddol eraill yn cynnwys Comisiynydd Iwerddon yn Biennale Fenis yn 1992, a Biennale Sao Paulo yn 1994, mae McGonagle bellach yn guradur ac ymgynghorydd annibynnol ac yn Gyfarwyddwr Ymchwiliad Celfyddydau Gwladol Canolfan Gelfyddydau Dinas Dulyn.
Mae Fumio Nanjo wedi gweithio gydag amgueddfeydd ac orielau dros y byd i gyd ac ar hyn o bryd mae’n Ddirprwy Gyfarwyddwr Amgueddfa Gelf Mori yn Tokyo. Bu’n Gyfarwyddwr Artistig Biennale Singapore yn 2006, ac yn 2000 fe’i gwahoddwyd i fod yn Aelod o’r Pwyllgor Dewis Rhyngwladol ar gyfer Biennale Sydney ac yn Guradur Adran Asia Oceana y Pum Cyfandir ac Un Ddinas ym Mecsico. Ym 1988 a 1990 bu’n Gomisiynydd i’r Aperto yn Biennale Fenis.
