Beirniaid Artes Mundi 1
Lisa Corrin
Ar ôl wyth mlynedd yn Brif Guradur yr Amgueddfa Gyfoes yn Baltimore, aeth Lisa Corrin yn Brif Guradur yn y Serpentine, Llundain. Yn dilyn nifer o sioeau llwyddiannus dros ben, gan gynnwys cyflwyniad unigol o waith enillydd Gwobr Turner, Chris Ofili, dychwelodd Lisa Corrin i’r Unol Daleithiau fel Dirprwy Gyfarwyddwr Celf Amgueddfa Gelf Seattle ac ar hyn o bryd mae’n Gyfarwyddwr Amgueddfa Gelf Coleg Williams, Mass. USA.
Marlene Dumas
Mae Marlene Dumas yn artist rhyngwladol sy’n enwog am y modd y mae’n cyfleu unigolion a grwpiau a’i hymchwil i’r ffurf ddynol a’r cyflwr dynol, gan wneud sylwadau dychanol yn aml am feirniaid celf. Yn y blynyddoedd diweddar mae wedi cyfuno geiriau â’i lluniau. Cyhoeddwyd ei llyfr Sweet Nothings, Notes and Texts ym 1998. Wedi’i geni yn Ne Affrica ac yn byw yn yr Iseldiroedd, mae Marlene Dumas wedi cael sioeau unigol yn Llundain yn Oriel Tate ym 1996, a Chanolfan Gelfyddydau Camden yn 2000.
Okwui Enwezor
Ganwyd Okwui Enwezor yn Nigeria, ac mae’n guradur, beirniad, awdur a bardd. Ym 1997, roedd yn Gyfarwyddwr Biennale Johannesburg ac mae wedi ysgrifennu’n helaeth am gelfyddyd ac artistiaid Affrica. Ef yw Cyhoeddwr a Golygydd Sylfaenol Nka: Journal of Contemporary African Art. Mae wedi gwasanaethu ar sawl panel beirniaid gan gynnwys Gwobr Hugo Boss 1998 a Phwyllgor Cynghori Rhyngwladol Gŵyl Ryngwladol Carnegie 1999. Bu’n Gyfarwyddwr Artistig Documenta 11 yn Kassel, yr Almaen yn 2002.
Fel Cyfarwyddwr yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol yng Nghaerdydd, mae Michael Tooby’n gyfrifol am y casgliadau celf, archeoleg a gwyddorau naturiol. Cyn hynny, ef oedd Curadur cyntaf Tate St Ives. Ers 1999 mae’n Gadeirydd Engage, y Gymdeithas Genedlaethol dros Addysg y Celfyddydau Gweledol. Mae’r gymdeithas yn annog addysg mewn amgueddfeydd, orielau a chelf gyhoeddus. Mae’n aelod panel hefyd gyda Rhaglen Sefydlogi ac Adfer Cyngor Celfyddydau Lloegr a chadeiriodd bwyllgor llywio Cymru yn Biennale Fenis 2003.