Zoom Cymru
Ym mis Ionawr 2013, buom yn gweithio ar brosiect i bontio’r cenedlaethau â Zoom Cymru, elusen sy’n darparu hyfforddiant mewn ffilm a’r cyfryngau i bobl ifainc, y rhan fwyaf o gymoedd de Cymru ac sy’n trefnu Gŵyl Ffilm Ryngwladol Pobl Ifanc Cymru.
Bu’r Tywysydd Byw, Mair Jones, a’r artist cymunedol, Dave Evans, yn cydweithio â grŵp o bymtheg o bobl ifainc a’u teuluoedd, pob un â chysylltiad â Chymdeithas Tai Sir Benfro i gynhyrchu ffilm mewn ymateb i waith un o’r artistiaid ar restr fer Artes Mundi 5, Phil Collins’, ‘Free Fotolab’ 2009.
Edrychodd y gwaith a gynhyrchwyd gan y grŵp ar y straeon cudd y tu ôl i’w hen ffotograffau anghofiedig a chafodd ei gynnwys wedyn yn yr arddangosfa ‘Casgliadau Adlewyrchedig’ yn Oriel yr Waterfront yn Aberdaugleddau o fis Hydref i fis Tachwedd 2013. Bu’r prosiect yn cynnig cyfle ardderchog i rannu profiadau personol ac i fyfyrio ar atgofion o’r gorffennol, gan bontio’r gagendor rhwng y cenedlaethau.
‘Casgliadau Adlewyrchedig’ from Artes Mundi on Vimeo.
Dilynwch ni ar Twitter
Ewch i'n Facebook Tudalen