Yael Bartana

Date posted: October 31, 2009 Dychwelyd i arddangosfeydd

Mae Yael Bartana'n creu gweithiau gweledol cymhleth gyda ffotograffiaeth, ffilm, fideo, sain a gosodiad. Gan ddefnyddio dogfennau ac ailgreadau mae’n symud o’r chwareus i‘r difrifol.

Ganed hi yn Israel ond nawr mae’n rhannu ei hamser rhwng ei mamwlad ac Amsterdam. Mae’n canolbwyntio’n aml ar Israel a’r sefyllfa yn y wlad. Mae’n archwilio manylion bywyd beunyddiol a’i ddefodau drwy eu cysylltu â gweithredoedd y wladwriaeth a phresenoldeb cyson rhyfel ac anniogelwch. Mae ei gweithiau’n gyfareddol yn weledol ac yn ddeallusol ac yn canolbwyntio ar berthnasau pobl yn ogystal â gwleidyddiaeth.

Cysylltwch â Ni | Telerau Defnyddio | Nodau Masnach | Datganiad Preifatrwydd
Hawlfraint 2013 Artes Mundi. Cedwir pob hawl

Dyluniwyd gan