Thomas Demand

Date posted: January 20, 2011 Dychwelyd i arddangosfeydd

Mae gwaith Thomas Demand yn cyfuno syniadolaeth, ffotograffiaeth a ffilm, gan ddefnyddio proses o adeiladu, cynrychioli ac ailadrodd.

Dechreua Demand y broses gyda llun sy’n bodoli eisoes o du mewn neu du allan adeilad, wedi’i gymryd yn aml o’r cyfryngau, o hanes, neu o’i gof ei hun. Wedyn bydd yn ail-greu’r ddelwedd hon yn fanwl ar fodel coeth maint llawn wedi’i adeiladu o bapur a cherdyn lliw. Yn olaf, bydd yn tynnu ffotograff o’r adeiladwaith papur hwn a grëwyd mor ofalus cyn ei ddinistrio. Y ddelwedd o’r cerflunwaith hwn ar ffurf ffotograff neu ffilm, wedi’i chwyddo i faint murlun, yw’r hyn a arddangosir. Gallai ffotograffau perffaith Demand fod yn lleoedd go iawn, yn rymus o real ac eto’n od o artiffisial; yn wag o bobl a graffeg, mae ei luniau’n rhyfedd o lân ac amwys. Ganwyd Thomas Demand ym Munich ym 1964 a bellach mae’n byw ac yn gweithio yn Berlin, wedi cwblhau ei astudiaethau yn yr Almaen, Llundain a Paris.

Cysylltwch â Ni | Telerau Defnyddio | Nodau Masnach | Datganiad Preifatrwydd
Hawlfraint 2013 Artes Mundi. Cedwir pob hawl

Dyluniwyd gan