Sue Williams

Date posted: January 20, 2011 Dychwelyd i arddangosfeydd

Mae peintiadau Sue Williams yn ymgorffori ymateb angerddol i'r cyflwr dynol, gan ddatgelu ffin amwys rhwng lle diogel a'r lle anniogel, rhwng y gwirioneddol a'r dychmygol.

Mae i luniadu ran bwysig yn ei gwaith, a thrwy ddefnyddio’r ddelwedd a luniadwyd y datguddir y syniad o chwant a breuder dynol. Mae defnyddio testun a defnydd y tu hwnt i wyneb y cynfas wedi mynd yn rhan integrol o’r gwaith sy’n galluogi chwarae o gwmpas â’r arwyneb.

Ganwyd Sue Williams ym 1956 yn Redruth, Cernyw ac mae hi bellach yn byw ac yn gweithio o Gaerdydd.

Cysylltwch â Ni | Telerau Defnyddio | Nodau Masnach | Datganiad Preifatrwydd
Hawlfraint 2013 Artes Mundi. Cedwir pob hawl

Dyluniwyd gan