RosÂngela Rennó

Date posted: November 16, 2010 Dychwelyd i arddangosfeydd

Mae gwaith Rosângela Rennó yn seiliedig ar ffotograffiaeth yn bennaf, er mai prin iawn y bydd yn cymryd ffotograffau o’i thestunau.

Yn hytrach, bydd yn ail-gastio ac yn trawsffurfio delweddau ffotograffig a ganfuwyd ar hap. Yn y gorffennol mae wedi cyflwyno portreadau dienw wedi’u llunio o ffotograffau sy’n bodoli’n barod – stiwdios ffotograffwyr a hyd yn oed ffotograffau o datŵs carcharorion. Er y daw o hyd i ffyrdd newydd a ffyrdd sy’n cael eu symbylu’n wleidyddol o gyflwyno’r delweddau’n aml, mae ei gwaith yn ddynol ofnadwy hefyd, gan y bydd y gwyliwr yn ei gael ei hun yn dychmygu bywydau pobl eraill, yn arbennig y rheiny sydd ar y cyrion neu’r rheiny sy’n mynd heb gydnabyddiaeth. I Rennó, “mae ‘straeon y collwyr’ yn fwy diddorol na ‘hanes y buddugwyr’.” (© ArtForum)

Mae arddangosfeydd unigol Rennó yn cynnwys y Centro Cultural do Brasil, Rio de Janeiro; y Museu do Chiado, Lisbon; Canolfan Ffotograffiaeth Awstralia, Sydney; Amgueddfa Celf Fodern São Paulo, Amgueddfa Celf Gyfoes Los Angeles a Sefydliad Appel yn Amsterdam. Cynrychiolodd Brasil yn 50fed Biennale Fenis yn 2003. Ganwyd Rosângela Rennó yn Belo Horizonte, Brasil ym 1962. Mae’n byw ac yn gweithio yn Rio de Janeiro.

Cysylltwch â Ni | Telerau Defnyddio | Nodau Masnach | Datganiad Preifatrwydd
Hawlfraint 2013 Artes Mundi. Cedwir pob hawl

Dyluniwyd gan