Neïl Beloufa

Date posted: September 17, 2015 Dychwelyd i arddangosfeydd

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Oriel 22a

Mae’r artist Ffrengig Algeraidd arobryn, Neïl Beloufa, yn defnyddio fideo ac amlgyfryngau i ymchwilio i a pharodïo rhyngweithio cymdeithasol drwy bynciau mor wahanol â bodau arallfydol, cenedlaetholdeb a therfysgaeth.

Mae cerfluniau, cydosodiadau, fideos a gosodweithiau Beloufa yn defnyddio delweddau dadleoledig, cywasgedig neu ffuglennol. Mae’r gweithiau hyn yn bodoli mewn byd sy’n gyfochrog â’n byd ni gan ymhyfrydu ynddo, lle mae’r damweiniol yn dod i’r fei fel y testun a lle mae’r testunau hyn mor debygol o gwrdd â’i gilydd â dwy long danfor neu ddwy loeren. Mae ei weithiau delweddau symudol yn edrych ar ryngweithio cymdeithasol a sgwrsio. Wedi’u gosod mewn lleoliadau sydd yn aml yn gyffredin neu’n amwys mae ei gymeriadau yn actio digwyddiadau sydd wedi’u sgriptio ac sy’n datgelu canlyniadau cynnil ac ystumiau personol.

Mae fideos Beloufa wedi cael eu dangos yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto, yr Ŵyl Ffilm Ryngwladol, Rotterdam a Gŵyl Ffilm Llundain. Mae wedi ennill gwobrau pwysig yn y 54ain a 57ain Oberhausen Kurzfilmtage, Gwobr Dalent Audi 2011 a Gwobr Meurice 2013 am Gelf Gyfoes. Mae wedi cael ei enwebu ar gyfer Prix Marcel Duchamp 2015.

Cysylltwch â Ni | Telerau Defnyddio | Nodau Masnach | Datganiad Preifatrwydd
Hawlfraint 2013 Artes Mundi. Cedwir pob hawl

Dyluniwyd gan