Mircea Cantor

Date posted: November 16, 2010 Dychwelyd i arddangosfeydd

Artist Rwmanaidd yw Mircea Cantor ac mae ei waith yn denu sylw rhyngwladol yn gynyddol.

Gweithia mewn amrywiaeth eang o gyfryngau gan gynnwys fideo a ffotograffiaeth, ac ymchwilia’n gyson i gonfensiynau creu delwedd a gwrthrych. Bydd yn ein procio’n aml i gofio bod mewnfudo, hunaniaeth genedlaethol a chyfoeth yn faterion enbyd yn fyd-eang a bod profiadau’r unigolyn yn amrywio’n ofnadwy. Er y bydd darlunio Cantor yn cyfuno ystyron a chwestiynau haenog yn aml, defnyddia dechnegau amlsynhwyraidd sy’n cynyddu cyseinedd emosiynol y gwaith.

Ganwyd yn Rwmania yn 1977, astudiodd ffilm a fideo yn ei famwlad cyn symud i Ffrainc fel fyfyriwr ôl-raddedig. Mae nawr yn rhannu ei amser rhwng Rwmania a Pharis.

Mae ei arddangosfeydd unigol  yn cynnwys A free smile, Galeri Yvon Lambert, Efrog Newydd, (UDA), 2007; Museo Tamayo Arte Contemporáneo, Panorámica, Mexico, D.F., 2007; Ciel Variable, FRAC Champagne Ardennes, Ffrainc, 2007; The title is the last thing, Amgueddfa Gelf Philadelphia (UDA), 2006; Burn to be Burnt, Galleria d’Arte Moderna e Contemporanea di Bergamo, Yr Eidal, 2006; The landscape is changing, Amgueddfa Gelf  Tel Aviv, Israel.

Cysylltwch â Ni | Telerau Defnyddio | Nodau Masnach | Datganiad Preifatrwydd
Hawlfraint 2013 Artes Mundi. Cedwir pob hawl

Dyluniwyd gan