Leandro Erlich

Date posted: January 20, 2011 Dychwelyd i arddangosfeydd

Wrth fynd i mewn i osodwaith gan Leandro Erlich, aiff y gwyliwr i mewn i fyd o dwyll a rhith; ni ellir agor drysau, bydd tyllau sbecian yn datgelu’r annisgwyl, ceir drychau di-adlewyrchiad a phwll nofio lle gall gwylwyr ymdrochi heb wlychu.

Mae ei osodweithiau’n gweithio fel dyluniad set astrus lle mai’r gwyliwr yw’r actor ac Erlich yw’r cyfarwyddwr. Mae Erlich yn herio syniad arferol y gwyliwr am realiti drwy greu profiad annisgwyl o fewn amgylchedd cyfarwydd.

Ganwyd Leandro Erlich yn Buenos Aires ac mae bellach yn byw ac yn gweithio yn Buenos Aires a Pharis wedi cwblhau ei astudiaethau yn yr Ariannin a chynllun preswyl dwy flynedd yn Houston, Texas.

Cysylltwch â Ni | Telerau Defnyddio | Nodau Masnach | Datganiad Preifatrwydd
Hawlfraint 2013 Artes Mundi. Cedwir pob hawl

Dyluniwyd gan