Lamia Joreige

Date posted: September 17, 2015 Dychwelyd i arddangosfeydd

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, oriel 19 a 20 a Chapter, Stiwdio Seligman

Artist a gwneuthurydd ffilmiau o Libanus yw Lamia Joreige sy’n defnyddio dogfennau archifol i fyfyrio ar y berthynas rhwng y cof ‘unigol’ a ‘chyfunol’. Mae ei gwaith yn edrych ar drawma rhyfeloedd Libanus gyda phwyslais ar ei dinas enedigol, Beirut. Yn 2011, gwaith Joreige Objects of War, cyfres o dystiolaeth fideo ar Ryfel Cartref Libanus, oedd y darn mawr cyntaf o gelf o Libanus i gael ei brynu gan Tate Modern.

Mae Joreige wedi cyflwyno ei gwaith mewn llawer o arddangosfeydd a chanolfannau gan gynnwys: Records for Uncertain Times, Oriel Taymour Grahne, Dinas Efrog Newydd ac Oriel Art Factum, Beirut; Here and Elsewhere, Yr Amgueddfa Newydd, Dinas Efrog Newydd; Une Histoire, art, architecture, design des années 1980 à nos jours, Centre Pompidou, Paris (casgliad parhaol); Simple Past, Perfect Futures, images in countershot, 104, Paris; Ravaged, M – Museum Leuven, Sharjah Biennial 11, 2013, Oriel Art Factum, Beirut, 2013; 6 lines of flight, SFMOMA, San Francisco, 2012, Tate Modern (casgliad parhaol) Llundain, 2011/2012; Terra Mediterranea – In crisis, Nicosia, 2012; Arab express, Amgueddfa Gelf Mori, Tokyo, 2012, Beirut, Kunsthalle Wien 2011.

Mae Lamia Joreige yn gyd-sefydlydd ac yn aelod bwrdd o Ganolfan Gelf Beirut, gofod dielw a neilltuir i gelf gyfoes yn Libanus.

Cysylltwch â Ni | Telerau Defnyddio | Nodau Masnach | Datganiad Preifatrwydd
Hawlfraint 2013 Artes Mundi. Cedwir pob hawl

Dyluniwyd gan