Gulnara Kasmalieva & Muratbek Djumaliev

Date posted: October 31, 2009 Dychwelyd i arddangosfeydd

Mae Gulnara Kasmalieva a Muratbek Djumaliev yn byw ac yn gweithio gyda’i gilydd yn Bishek, prifddinas Kyrgyzstan, gwlad a fu'n ganolbwynt i newid a phrotest ers cwymp yr Undeb Sofietaidd.

Fel canlyniad mae eu gwaith yn cynnig gwelediad cymhleth i’r Rwsia fodern ac Asia Ganolog. Drwy fideo a gosodiadau ffotograffiaeth maent yn archwilio sut y mae chwalu comiwnyddiaeth wedi effeithio ar fywydau miloedd o bobl Kyrgyzstan. Mewn un gosodiad pum sianel maent yn archwilio sut mae ansefydlogrwydd economaidd a gwleidyddol wedi newid gwerth cynnyrch ar Ffordd Fawr y Sidan gan achosi nifer i adael y wlad. Mewn darn arall a ffilmiwyd yn Siberia maent yn cymharu delweddau o dir gwastraff diwydiannol sy’n newid yn araf gyda recordiad syml o bobl yn mynd ar gwch gan danlinellu’r eiliad amwys pan dry’r dyfodol yn bresennol a sut mae pobl yn delio â realiti.

Cysylltwch â Ni | Telerau Defnyddio | Nodau Masnach | Datganiad Preifatrwydd
Hawlfraint 2013 Artes Mundi. Cedwir pob hawl

Dyluniwyd gan