John Akomfrah

Date posted: September 17, 2015 Dychwelyd i arddangosfeydd

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Oriel 24

Mae John Akomfrah a aned yn Ghana yn ffigwr arloesol yn y Sinema Du Prydeinig ac yn rhagflaenydd ym maes sinematograffi digidol. Mae ganddo gorff o waith a ystyrir fel un o’r rhai mwyaf arbennig ac arloesol yn y Brydain gyfoes.

Ers 30 mlynedd, mae’r cyfarwyddwr, awdur a damcaniaethwr yn amlygu cynhysgaeth yr Affricanwyr alltud yn Ewrop drwy greu ffilmiau sy’n ymchwilio i hanesion cymdeithas Ewrop sydd wedi’u hymylu.

Un o aelodau sefydlu’r Black Audio Film Collective oedd Akomfrah ac mae’n adnabyddus am ffilmiau sy’n cynnwys The Nine Muses (2010), Speak Like a Child (1998) a The Stuart Hall Project (2013). Yn 2008 derbyniodd Akomfrah yr OBE am ei wasanaethau i’r diwydiant ffilm Prydeinig.

Cysylltwch â Ni | Telerau Defnyddio | Nodau Masnach | Datganiad Preifatrwydd
Hawlfraint 2013 Artes Mundi. Cedwir pob hawl

Dyluniwyd gan