Chen Chieh-jen

Date posted: October 31, 2009 Dychwelyd i arddangosfeydd

Mae'r artist o Taiwan, Chen Chieh-jen yn gweithio gyda ffotograffiaeth, ffilm, gosodiadau a pherfformiad er mwyn archwilio materion byd-eang yn arbennig megis y gweithlu, prynwriaeth ac ymfudiad.

Mae’n creu gwaith fel modd o wrthwynebu ‘fel gweithred o gyfuno hanes y bobl sydd wedi eu cau allan o’r brif drafodaeth, sefyllfaoedd go iawn sy’n cael eu hanwybyddu a’r lleill sy’n cael eu hynysu. Felly rwy’n gwrthsefyll anghofrwydd mewn cymdeithas o ddefnyddwyr.’ Mae’n ymddiddori yn sefyllfa arbennig ei wlad a ystyrir fel gwlad annibynnol gan rai ond fel un o’i gwladwriaethau gan Dsieina. Mae manylrwydd a cheinder ei waith yn gwrthbrofi llygredd a natur annheg bywyd. Mae cyflymder a thawelwch ei ffilmiau’n ysgogi perfformiad celf ac yn dangos gwytnwch yr unigolyn yn hanes anodd Taiwan.

Cysylltwch â Ni | Telerau Defnyddio | Nodau Masnach | Datganiad Preifatrwydd
Hawlfraint 2013 Artes Mundi. Cedwir pob hawl

Dyluniwyd gan