Apichatpong Weerasethakul

Date posted: September 1, 2017 Dychwelyd i arddangosfeydd

Ganed Apichatpong yn Bangkok ac fe’i magwyd yn Khon Kaen yng ngogledd-ddwyrain Gwlad Thai. Dechreuodd wneud ffilmiau a fideos byrion ym 1994 a chwblhaodd ei ffilm hir gyntaf yn 2000. Mae hefyd wedi cynnal arddangosfeydd a gosodweithiau mewn llawer o wledydd er 1998.

Yn aflinol yn aml, gyda dadleoli i’w deimlo’n gryf ynddynt, mae ei weithiau’n trafod atgofion, ymdriniaeth gynnil â gwleidyddiaeth bersonol a materion cymdeithasol. Gan weithio’n annibynnol ar ddiwydiant ffilm masnachol Gwlad Thai, drwy ei gwmni Kick the Machine, mae’n weithgar wrth hybu gwneud ffilmiau arbrofol ac annibynnol. Mae ei brosiectau celf a ffilmiau hir wedi ennill cydnabyddiaeth eang iddo a gwobrau niferus mewn gwyliau gan gynnwys dwy wobr yng Ngŵyl Ffilm Cannes. Yn 2005, cyflwynwyd un o wobrau pwysicaf Gwlad Thai, Silpatorn, iddo gan Weinyddiaeth Ddiwylliant Gwlad Thai.

Yn 2008, rhoddwyd medal Chevalier de l’Ordre des Arts et des Lettres (Marchog Urdd y Celfyddydau a Llên) iddo gan Weinidog Ffrainc dros Ddiwylliant.

Yn 2012, dadorchuddiwyd ei gerflun drychiolaethol yn Documenta (13), un o’r arddangosfeydd celf rhyngwladol pwysig mwyaf adnabyddus a gynhelir yn Kassel, Yr Almaen. Yn 2013, comisiynwyd gwaith newydd ganddo gan Sefydliad Celf Sharjarh, Dilbar, portread o lafurwr yn yr Undeb Emiraethau Arabaidd. Enillodd y gwaith un o saith Gwobr Biennale 11 Sharjah. Hefyd curadodd Weerasethakul y rhaglen ffilmiau ar gyfer y Biennale.

Ymhlith arddangosfeydd diweddar mae Monuments, ShangArt, Shanghai, Tsieina (2017); Ghosts in the Darkness, Amgueddfa Celf Ffotograffig Tokyo; Tate Film Pioneers, Apichatpong Weerasethakul: Mirages, Tate Modern, Llundain; Floating Worlds, Biennale de Lyon, Lyon, Ffrainc (2017).

Cysylltwch â Ni | Telerau Defnyddio | Nodau Masnach | Datganiad Preifatrwydd
Hawlfraint 2013 Artes Mundi. Cedwir pob hawl

Dyluniwyd gan