Deprecated: Methods with the same name as their class will not be constructors in a future version of PHP; AjaxThumbnailRebuild has a deprecated constructor in /home/linweb30/a/artesmundi.org/user/htdocs/mundi/wp-content/plugins/ajax-thumbnail-rebuild/ajax-thumbnail-rebuild.php on line 26

Deprecated: Methods with the same name as their class will not be constructors in a future version of PHP; CPTO has a deprecated constructor in /home/linweb30/a/artesmundi.org/user/htdocs/mundi/wp-content/plugins/post-types-order/include/cpto-class.php on line 3

Deprecated: Methods with the same name as their class will not be constructors in a future version of PHP; WP_Import has a deprecated constructor in /home/linweb30/a/artesmundi.org/user/htdocs/mundi/wp-content/plugins/wordpress-importer/wordpress-importer.php on line 38
Artes Mundi - Amy Franceschini / FutureFarmers

Amy Franceschini / FutureFarmers

Date posted: September 17, 2015 Dychwelyd i arddangosfeydd

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Oriel 22(b)

Grŵp o ymarferwyr celf a ffermio yw Futurefarmers a sefydlwyd ym 1995 gan yr artist Amy Franceschini sydd â’i chartref yng Nghaliffornia. Llinell gyson drwy waith Franceschini yw cwestiynu estynedig am sut mae ‘natur’ a ‘diwylliant’ yn cael eu gweld. Mae’n defnyddio gwahanol ddulliau i ddatgelu hanesion a cherhyntau sy’n gysylltiedig â’r rhaniad hwn drwy herio systemau cyfnewid ac offer ‘hela’ a ‘chasglu’. Mae ei gwaith i’w weld fel celf gyhoeddus dros dro, arddangosfeydd mewn amgueddfeydd, cyhoeddiadau, teithiau bws, rhaglenni cyhoeddus ac yn fwyaf diweddar gelf gyhoeddus barhaol. Mae ei gwaith wedi’i arddangos yn Amgueddfa Guggenheim yn Efrog Newydd, Biennale Whitney yn Efrog Newydd, Amgueddfa Celf Fodern Efrog Newydd, Amgueddfa Celf Fodern San Francisco, Biennale Pensaernïol Fenis a derbyniodd Gymrodoriaeth Guggenheim yn 2010 a Chymrodoriaeth Eureka yn 2006.

Mae Futurefarmers yn gweithio tuag at greu rhaglen amrywiol o gomisiynau cyhoeddus, arddangosfeydd a chyhoeddiadau, sy’n edrych ar systemau trafnidiaeth gyhoeddus, rhwydweithiau ffermio gwledig a pholisïau bwyd ac yn eu herio.

Mae gwaith Futurefarmers wedi’i arddangos yn Amgueddfa Celf Americanaidd Whitney,  MOMA, Solomon R. Guggenheim, Hall of Sciences Efrog Newydd a Chanolfan Gelf Walker.

Hefyd, ar hyn o bryd, Amy Franceshini yw artist arweiniol Cymdeithas Flatbread, gwaith celf cyhoeddus parhaol a welir mewn man cyhoeddus yn Bjørvika yn Oslo, Norwy.

 

RECORDINGS FOR THE BIRDS by AMY FRANCESCHINI – FUTUREFARMERS (ARTES MUNDI 7) from Artes Mundi on Vimeo.

Cysylltwch â Ni | Telerau Defnyddio | Nodau Masnach | Datganiad Preifatrwydd
Hawlfraint 2013 Artes Mundi. Cedwir pob hawl

Dyluniwyd gan