Adrian Paci

Date posted: October 31, 2009 Dychwelyd i arddangosfeydd

Mae Adrian Paci'n ailgreu ei brofiadau personol drwy ddefnyddio technegau traddodiadol o ddweud stori. Mae’n myfyrio ar ei hanes ei hun fel person dadleoledig, sefyllfa sy'n hysbys i lawer un.

Fel Albaniad dihangodd gyda’i deulu rhag rhyfel Kosovo i’r Eidal ym 1997 lle mae’n byw o hyd. Mae’n edrych ar wleidyddiaeth boenus Albania a realiti ymfudo mewn ffilmiau, ffotograffau a phaentiadau. Yn ei waith cynnar ailgreodd brofiadau teuluol sy’n bersonol iawn ac yn ei waith diweddarach mae’n canolbwyntio ar y darlun ehangach. Nid yw’n petruso i gymysgu dychymyg a realiti. Mae ei waith yn llawn hiwmor, pathos a sensitifrwydd i’r pwnc.

Cysylltwch â Ni | Telerau Defnyddio | Nodau Masnach | Datganiad Preifatrwydd
Hawlfraint 2013 Artes Mundi. Cedwir pob hawl

Dyluniwyd gan