Art Car Bootique

Chapter, Caerdydd

14 Ebrill 2013 10.30-6.30yh

Mae’r ‘Art Car Bootique’ yn ddigwyddiad unigryw sy’n addasu’r syniad traddodiadol o’r ‘car boot sale’ gyda oddeutu 70 ardal yn dangos celf, ffasiwn, perfformiad, cynnyrch vintage a phrosiectau. Mae’n ddigwyddiad poblogaidd tu hwnt, sy’n dathlu cymuned greadigol Caerdydd, oll wedi ei osod o fewn pentref seicedelig yng nghefn Chapter sy’n cynnwys eglwys dros dro, llwyfan y pentref, a disco priodas ar gyfer y fîn nos.

Gan ddefnyddio thema yr ‘Art Car Bootique’ o ‘bleserau euog’, gofynodd Artes Mundi i bobl rhoi mewn i demtasiwn a churadu arddangosfa o’u pleserau euog celf bersonol ar ein stondyn yn Chapter.

Gan ddilyn galwad agored, fe wnaethom ni rhoi detholiad at i gilydd o brintiau o bleserau euog celf – yn cynnwys popeth o bortreadau o gŵn i delweddau o David Hasselhoff! Fe wnaethom ni wedyn gwahodd y cyhoedd i fod yn guriaduron a dewis print o’r rhesel i arddangos yn ein sioe, ond rhaid oedd rhoi menyg gwyn curadur arno a dewis pa lun i dynnu lawr i wneud lle i’w dewis…….

 Cymerwch olwg ar y canlyniadau, yngyd â’r pôl sydd yn dangos y pleserau euog celf mwyaf poblogaidd.

Cysylltwch â Ni | Telerau Defnyddio | Nodau Masnach | Datganiad Preifatrwydd
Hawlfraint 2013 Artes Mundi. Cedwir pob hawl

Dyluniwyd gan