Amdanom Ni

Sefydliad celfyddydol a chanddo ffocws rhyngwladol yw Artes Mundi sy’n adnabod, yn cydnabod ac yn cefnogi artistiaid gweledol cyfoes sy’n ymgysylltu â’r cyflwr dynol, realiti gymdeithasol a phrofiad y mae pobl wedi byw drwyddo.

Artes Mundi yw’r Lladin am ‘gelfyddydau’r byd’, sy’n adlewyrchu ffocws rhyngwladol yr elusen gelfyddydol hon sydd â’i chartref yng Nghymru. Ei chenhadaeth yw:

“Ei nod yw dod a chelf eithriadol a heriol o bendraw’r byd i Gymru a chynhyrchu cyfleodd unigryw i unigolion a chymunedau lleol i gysylltu’n greadigol a materion brys ein hoes”.

Wedi’i sefydlu yn 2002, mae Artes Mundi’n fwyaf adnabyddus am ei harddangosfa a’i gwobr ryngwladol a gynhelir bob dwy flynedd yng Nghaerdydd. Dyma sioe celf weledol gyfoes fwyaf cyffrous Cymru. Mae un o’r artistiaid ar y rhestr fer yn derbyn y wobr o £40,000, y wobr gelf fwyaf yn y DU ac un o’r pwysicaf yn y byd.

Mae Artes Mundi yn elusen gofrestredig (rhif cofrestru 1097377). Mae ei ymddiriedolwyr yn ffigurau â pharch eang o fusnes, y gymuned celfyddydau weledol a’r sector gelfyddydol ehangach.

Cysylltwch â Ni | Telerau Defnyddio | Nodau Masnach | Datganiad Preifatrwydd
Hawlfraint 2013 Artes Mundi. Cedwir pob hawl

Dyluniwyd gan