Peidiodd Fernando Bryce â pheintio dros ddeng mlynedd yn ôl er mwyn gweithio’n bennaf mewn inc Indiaidd. Mae'n astudio sut mae’r cyfryngau gweledol ac ysgrifenedig yn cyfleu dirnadaeth gwlad, person neu ddigwyddiad hanesyddol. Mae’n mabwysiadu arddull dylunio sy’n debyg iawn i stribedi comig yr 20fed ganrif ac yn ailgyflwyno deunydd print y mae’n ei ganfod, o bropaganda gwleidyddol i lenyddiaeth hyrwyddo. Drwy’r broses hon o gopïo mae’n tanlinellu’r ffyrdd y mae ffeithiau’n cael eu llunio, mae diwylliant yn cael ei ddisgrifio a hanes yn cael ei adrodd. Drwy ei atgynhyrchion mae’n cwestiynu hygrededd y tudalen print. Ganed ef ym Mheriw ond erbyn hyn mae'n rhannu ei amser rhwng Lima a Berlin
l’Humanité 18 Octobre Indian ink on paper Courtesy of the artist