Gweithia Lida Abdul mewn celfyddyd perfformio a chelfyddyd fideo yn bennaf, gan ofyn cwestiynau ynghylch lle, cymuned ac ystyr ein hamgylchoedd. Mae ei gweithiau fideo yn cynnwys Curo Dwylo gyda Cherrig a T? Gwyn, ac mae’r ddau ohonynt yn ail-ddehongli natur pensaernïaeth yn ein hamgylchoedd ac yn awgrymu ffyrdd amgen o edrych ar ofod a’i oblygiadau diwylliannol. Mae ei gweithiau hefyd yn adlewyrchu’r newidiadau ffisegol sy’n bresennol yn ei mamwlad Affganistan.
Yn ddiddorol, mae ei gwaith yn asio ffurfioldeb Gorllewinol â thraddodiadau esthetig fel Islam, Bwdhaeth a Hind?aeth, sydd wedi dylanwadu ar gelf a diwylliant Affganistan. Yn Biennale Fenis yn 2005 hi oedd cynrychiolydd swyddogol cyntaf Affganistan yn hanes 100 mlynedd y Biennale. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae Abdul wedi bod yn gweithio mewn rhannau gwahanol o Affganistan ar brosiectau sy’n archwilio’r berthynas rhwng pensaernïaeth a hunaniaeth.
Ganwyd Abdul yn Kabul, Affganistan ym 1973. Bu’n byw yn yr Almaen ac yn India fel ffoadur ar ôl iddi gael ei gorfodi i adael Affganistan yn dilyn ymosodiad y cyn-Sofietiaid. Erbyn hyn mae’n byw ac yn gweithio yn Kabul a Los Angeles, UDA.
Mae ei gwaith mwyaf diweddar wedi’i ddangos yn 51fed Biennale Fenis 2005; Istanbul Modern; Kunsthalle, Fienna; Amgueddfa Celf Fodern Arnhem, yr Iseldiroedd a Biennale Canol Asia 2004.
Brick Sellers of Kabul - 2006 Trosglwyddiad ffilm 16mm Drwy garedigrwydd yr artist