Cyhoeddwyd yr wyth artist o ledled y byd sydd ar restr fer pedwaredd wobr gelf gyfoes ryngwladol Cymru, Artes Mundi heddiw (8 Hydref 2009).
Derbyniodd Artes Mundi dros 480 o enwebiadau rhyngwladol gan 80 a mwy o wledydd fel rhan o’r broses ddethol drylwyr a dewiswyd rhestr fer gan ddau guradur wedi'u penodi'n arbennig sef y curadur annibynnol a'r beirniad celf Viktor Misiano, gynt yn guradur yn Amgueddfa Wladwriaethol Pushkin a Chyfarwyddwr Canolfan Celf Gyfoes ym Mosgo a Levent Çalikoğlu, Prif Guradur Amgueddfa Celf Gyfoes Istanbul.
Mae’r amrywiaeth o genhedloedd a chyfryngau artistig ar y rhestr yn adlewyrchu amrediad gwobr Artes Mundi sy’n edrych am artistiaid nodedig o ledled y byd sy’n symbylu ein meddyliau yngl?n â'r natur ddynol a'r ddynoliaeth.
Olga Chernysheva - From the series ON DUTY (2007) Gelatin-silver fiber based print Courtesy of the Artist